Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn edrych o’r newydd ar yr artist Ôl-Argraffiadol angof, y Cymro J. D. Innes

Yn ystod ei fywyd byr a thrasig, paentiodd yr artist o Gymro James Dickson Innes (1887-1914) weledigaeth unigryw o dirwedd Cymru mewn arddull Ôl-Argraffiadol hynod liwgar. I nodi can mlynedd ers marwolaeth yr artist, bydd yr arddangosfa Tirluniau gan J.D.Innes: Gogoniant y Gwyllt, o 12 Ebrill - 20 Gorffennaf 2014, yn rhoi golwg newydd i ni ar waith yr artist hwn a esgeuluswyd hyd yn hyn. Gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Celf Byrcheiniog, hon yw’r arddangosfa gyntaf o waith Innes mewn saith ar hugain o flynyddoedd.

 

Ganwyd James Dickson Innes yn Llanelli ar 27 Chwefror 1887. Er taw prin 27oed ydoedd yn marw, drwy ei obsesiwn â mynyddoedd a’i reddf am liwiau gadawodd ei farc unigryw ei hun ar y byd tirluniau Prydeinig.

 

Cafodd Innes ei addysg yn Ngholeg Crist, Aberhonddu cyn dechrau dosbarthiadau yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn ddwy ar bymtheg mlwydd oed. Dechreuodd Innes ei addysg gelfyddydol yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn ddwy ar bymtheg cyn mynychu Ysgol Gelfyddyd Gain Slade yn Llundain rhwng 1906 a 1908. Teithiodd dramor ar sawl achlysur, gan ddychwelyd yn gyson i Collioure yn ne Ffrainc, pentref lle bu’r Ffofydd enwog Henri Matisse yn paentio ym 1905. Yn ystod y teithiau yma datblygodd Innes ei reddf unigryw am liw. Rhwng 1909 a 1910 bu’n byw am gyfnod ym Mharis. Yma, yng nghanolbwynt celfyddydol Ewrop, y syrthiodd mewn cariad â phrydferthwch Euphemia Lamb a’i gwallt euraid. Disgrifiwyd hi fel ‘merch ei freuddwydion’ gan Augustus John, oedd yn gyfaill i’r ddau.

 

Mae Innes yn fwyaf enwog am ei baentiadau o Gymru, yn enwedig mynydd Arenig Fawr, fu’n ysbrydoliaeth gyson iddo. Gwelodd Innes yr Arenig am y tro cyntaf tra’n crwydro’r bryniau ger y Bala ym 1910. Hudwyd ef gan y mynydd, a dychwelodd droeon gydag artist arall o Gymro Augustus John. Adroddodd Augustus John yr hanes yn ei ffordd ramantaidd ei hun, am Innes yn crwydro’r rhostir – yn drist a heb geiniog i’w enw – ac yn cael croeso gan dafarnwr Rhyd-y-fen.

 

Dan ddylanwad John dechreuodd baentio mewn olew ar baneli pren bychan, gan ddefnyddio lliwiau cynyddol lachar ac arddull addurnol. Brwydrai Innes beunydd yn erbyn y dirywiad yn ei iechyd, daeth gweithio’n obsesiwn a gyda’r golau a’r tywydd cyfnewidiol yn ei ysbrydoli, datblygodd ei waith haenau dyfnach o emosiwn ac ystyr. Yng ngeiriau Augustus John, yr Arenig oedd ei ‘fynydd hudol’.

 

Ei amser yno ym 1911 a 1912 oedd cyfnod mwyaf toreithiog ei yrfa, ond ag yntau prin yn 27 oed, daeth ei yrfa i ben yn drasig o ganlyniad i’r ddarfodedigaeth.

 

Meddai Anne Pritchard, Curadur Celf Hanesyddol Amgueddfa Cymru; “Drwy gyfrwng mynyddoedd arallfydol ac wybrennau breuddwydiol sicrhaodd ei waith le i dirluniau Prydeinig yn y byd celf Ewropeaidd Ôl-Argraffiadol, ond dros y blynyddoedd cafodd ei waith ei anghofio. Nod yr arddangosfa hon, ganrif ers ei farw, yw taflu goleuni newydd ar ei waith ac rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau tirluniau lliwgar a theimladwy yr artist o Lanelli.

 

“Cefnogir yr arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Gelf Brycheiniog a gwnaed y gwaith ymchwil gan Charlotte Topsfield.”

 

Ewch i wefan Amgueddfa Cymru am wybodaeth am ddigwyddiadau yn ymwneud a’r arddangosfa hon gan gynnwys sgyrsiau amser cinio a taith i ardal Arenig a’r golygfeydd a ysbrydolwyd lluniau Innes. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/digwyddiadau/?site=cardiff

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Diwedd

 

Am fwy o wybodaeth, delweddau neu gyfweliadau cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Cefnogwyd rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Yn ddiweddar cyhoeddodd Lund Humphries lyfr llawn lliw gan John Hoole a Margaret Simons o’r enw James Dickson Innes, 1887-1914 (£45; 978-1-84822-139-0). Yn y llyfr adroddir hanes bywyd Innes drwy atgofion cyfeillion a chymdeithion cyn dadansoddi’n fanwl ddatblygiad ei waith fel artist. Ceir ynddo hefyd gatalog llawn o weithiau hysbys Innes, y cyntaf a gasglwyd erioed. Gellir prynu’r cyfeirlyfr diffiniol hwn yn siop Amgueddfa Cymru neu ar-lein o wefan y cyhoeddwr (www.lundhumphries.com).

 

Mae Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd hefyd yn nodi canrif drwy gyfrwng arddangosfa o waith wedi’i gomisiynu gan artistiaid tirlun cyfoes amlycaf Cymru, a’i ysbrydoli gan Arenig fawr a’r cyffiniau. Yn ogystal â gwaith Innes, bydd arddangosfa Arenig yn llwyfan i waith Keith Bowen, Karina Rosanne Barrett, Martin Collins, Clive Hicks-Jenkins, Darren Hughes, Mary Lloyd Jones, Gareth Parry, Iwan Gwyn Parry, Gwilym Prichard, Wilf Roberts, William Selwyn, Sarah Thwaites, Catrin Williams a David Woodford. 9 Ebrill – 3 Mai 2014.