Datganiadau i'r Wasg

Plannu pabïau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gofio can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd rhaglen bedair mlynedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn coffau 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dechrau o ddifri dros y penwythnos wrth i blant hau hadau pabi i gofio pawb sydd wedi marw mewn rhyfel. Bydd y blodau yn atgof blynyddol yn ystod y cyfnod coffa, ac yn fan i gyfarfod a myfyrio.

Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chyhoeddiadau gan saith amgueddfa genedlaethol Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dros y pedair mlynedd nesaf bydd Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag ymwelwyr i edrych ar ymateb pobl Cymru i’r alwad i ryfel, gan drafod yr effaith ar y bobl ar lawr gwlad a’r rhai oedd dramor yn ymladd ac yn gweithio ym merw’r brwydro. Byddwn hefyd yn edrych ar y newid yn sgiliau, agwedd a chred y bobl yn ystod y rhyfel ac yn yr heddwch a ddilynodd.

Meddai Steph Mastorsis o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe:

“Byddwn ni’n plannu cannoedd o hadau pabi yn y saith amgueddfa. Dylai’r blodau ddechrau blaguro dros fisoedd yr haf a thrwy gydol y cyfnod coffau, a byddwn hefyd yn trefnu cyfres eang o ddigwyddiadau yn ymwneud a’r cyfnod gan gynnwys gweithdai cracio côd i blant, sgyrsiau hanesyddol i oedolion yn ogystal a adrodd storiau Horrible History, teithiau darganfod a chyfle i ddefnyddio gwasg argraffu erm mwyn creu poster propaganda.

“Mae ein rhaglen goffau yn rhan allweddol o raglen genedlaethol Llywodraeth Cymru i nodi’r canmlwyddiant, Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn adrodd hanes pobl Cymru ac yn edrych ar effaith unigryw y Rhyfel Byd Cyntaf ar fywyd Cymru.”

Cydlynir yr ymgyrch blannu gan B&Q a’r Lleng Brydeinig Frenhinol fydd yn troi’r DU yn fôr o goch drwy gydol 2014 a thu hwnt.

Ymhlith uchafbwyntiau rhaglen Amgueddfa Cymru o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod 2014 mae:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dechrau’r cofio ar 2 Awst 2014 yn agoriad Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Arddangosfa o gyfres o brintiau lithograff a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r frwydr. Yn y delweddau gwelwn y newid agwedd, fel gyda rôl y fenyw er enghraifft, yn ystod y rhyfel. Ymhlith y lithograffau mae delweddau gan rai o artistiaid mwyaf Cymru a Phrydain fel Augustus John a Frank Brangwyn.

Mae project ar y cyd â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol a Paul Mellon wedi ennyn ymateb cryf gan bobl ifanc i’r printiau Efforts and Ideals. Caiff ffrwyth eu gwaith – yn bosteri, ffilmiau byr, monologau a gwaith animeiddio - ei arddangos ar yr un pryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Bydd Cychwyn Cofio yn dechrau yn Amgueddfa Lechi Cymru ym mis Gorffennaf 2014 gydag apêl i bob cwr o gymunedau’r chwareli am wybodaeth am y rhyfel a’i effaith ar fywydau pobl. Bwriad yr apêl yw manteisio ar y rhaglen gymunedol i gefnogi ac ategu’r gwaith o ddatblygu dwy arddangosfa fydd yn agor yn 2015 a 2016.

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin

Bydd Diwydiant Gwlân dan Gwmwl Du yn agor yn ystod yr haf eleni (1 Gorffennaf – 29 Tachwedd 2014). Golwg ydyw ar ymgyrchu taer y diwydiant gwlân am gytundebau gwaith i gadw’r melinau ar agor, a straeon megis ymgais Corfflu’r Fyddin Gymreig i hyrwyddo hunaniaeth Gymreig drwy ddilladu’r fyddin newydd mewn brethyn cartref.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrthi’n cynhyrchu Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Mawr (11 Hydref 2014 – 15 Mawrth 2015) – arddangosfa yn edrych ar gyfraniad diwydiannau Cymru i’r Rhyfel. Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol 2014.

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion hefyd yn cyfrannu at y cofio drwy edrych ar ryfela drwy’r canrifoedd. Mae Equus: Y Ceffyl Rhyfel (27 Mehefin 2014 – 30 Ionawr 2015) yn edrych ar geffylau rhyfel Rhufain a’u hoffer ac yn eu cymharu â’r defnydd o geffylau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Digwydd hyn yn dilyn llwyfannu War Horse yng Nghanolfan y Mileniwm a chanfod offer

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r ddwy Amgueddfa.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.