Datganiadau i'r Wasg

Y tu ôl i'r llenni yn y Pwll Mawr

Caiff ymwelwyr â'r Pwll Mawr yr wythnos nesaf gyfle arbennig i weld beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn hoff amgueddfa lofaol Prydain mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig.

Bob bore, caiff ymwelwyr ymuno ag un o gadwraethwyr y Pwll Mawr ar daith o gwmpas y safle i edrych ar brojectau sydd ar y gweill a phrojectau ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cinio bob dydd bydd aelod o staff yn siarad am eu gwaith ac am y rhan maen nhw'n ei chwarae wrth gynnal y pwll glo sydd wedi troi'n amgueddfa.

Mae'r Pwll Mawr wedi cael ei weddnewid yn llwyr yn ddiweddar diolch i ailddatblygiad gwerth £7.1miliwn a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Lloyds TSB a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau preifat.

Mae'r Pwll Mawr yn un o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy'n cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a'r Pwll Mawr ei hun. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn agor ei drysau yn haf 2005, i adrodd stori diwydiant ac arloesi yng Nghymru.

Mae mynediad i'r amgueddfa ac i'r sgyrsiau hyn am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn ffoniwch 01495 790311.