Pasg yn Amgueddfa Cymru

Mae yma rywbeth i bawb y Gwanwyn hwn

Gyda gweithgareddau yn cynnwys Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa yn nifer o'n safleoedd, stori dditectif i'w datrys, gwersyll llengfilwyr Rhufeinig, crefftau, a llawer mwy! Mae digon o anrhegion a theganau'r Pasg yn ein siopau, gan gyflenwyr annibynnol o Gymru, a chinio a chacennau blasus yn ein caffis a'n bwytai.

Eisiau bod y cyntaf i wybod beth sy'n digwydd yn Amgueddfa Cymru? ⁠Mae dod yn Aelod yn ffordd wych o gefnogi ein hamgueddfeydd, gyda mynediad am ddim i arddangosfeydd gyda thâl mynediad, gwybodaeth ymlaen llaw am ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig, a disgownt yn ein siopau a chaffis! Diolch - caiff ein digwyddiadau i deuluoedd eu cefnogi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Gweithgareddau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd


Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru


Amgueddfa Wlan Cymru


Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru


Amgueddfa Genedlaethol y Glannau


Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru


Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan