Amgueddfa Cymru yn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

Adrodd y straeon am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru trwy ein hamgueddfeydd cenedlaethol

Corn Poppy

Eleni bydd Amgueddfa Cymru yn troi'r sylw at ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan edrych ar y dathliadau fu ar y pryd, y coffáu a ddilynodd, a sut ydym ni yn cofio am y rhyfel heddiw.

Bydd

Pabi'r Coffáu, 21 Gorffennaf 2018 – 3 Mawrth 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn edrych ar sut y daeth y pabi yn symbol coffáu, ac yn gyfle i fyfyrio ar golledion.

Uchafbwynt arall fydd Cofeb, 23 Gorffennaf 2018 – 31 Rhagfyr 2018 yn Amgueddfa Lechi Cymru, fydd yn canolbwyntio ar gofeb arbennig Pen-yr-Orsedd yn Nyffryn Nantlle.

Bydd merched a'r ffrynt cartref yn parhau i fod yn rhan bwysig o'n rhaglen gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn edrych ar rôl merched mewn ffatrïoedd arfau yn Gobaith Caneri? Menywod y Miwnishons sydd i'w weld o fis Medi – Rhagfyr 2018.

Ym mis Hydref 2018, bydd oriel newydd Cymru... yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bydd rhan o'r oriel yn canolbwyntio ar y Rhyfel Byd Cyntaf a hanes Castell Sain Ffagan yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty milwrol. Hefyd yn Sain Ffagan, bydd copi wedi'i argraffu'n

3D o Gadair Ddu Hedd Wyn i'w gweld tan ddiwedd Awst 2018.

Yn Amgueddfa Wlân Cymru, bydd ein gwirfoddolwyr yn cymryd rhan ym mhroject Wonderwool Wales i gynhyrchu gosodiad tecstilau cymunedol o dros 70,000 pabi, i goffáu pob person o'r DU fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae ein harddangosfeydd teithiol yn dal i symud: gallwch weld Dros Ryddid ac Ymerodraeth yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Mawrth – Mehefin 2018, ac yna yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Hydref 2018 – Mawrth 2019. Bydd Gwaith a Buddugoliaeth yn Amgueddfa Lechi Cymru, 22 Ionawr – 5 Mehefin 2018.

Byddwn yn cynnal llu o ddigwyddiadau eraill cysylltiedig ar ein safleoedd.

Porwch ein

I glywed y diweddaraf ac am wybodaeth am ddigwyddiadau, neu os hoffech rannu’ch atgofion a’ch meddyliau am y Rhyfel Byd Cyntaf, cysylltwch â ni ar Twitter: @CymrunCofio ac @AmgueddfaCymru. Cofiwch ychwanegu #RhyfelBydCyntaf gyda’ch negeseuon

Noddir ein rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 a’r gweithgareddau cysylltiedig yn hael gan Lywodraeth Cymru (CyMAL), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a noddwyr eraill.

Arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau:

 
 
Dysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf [Lawrlwytho PDF]

Mae ein rhaglen goffáu yn rhan allweddol o raglen Gymru-gyfan Llywodraeth Cymru i nodi'r canmlwyddiant, o'r enw Cymru'n Cofio 1914-1918.

Cymru'n Cofio - Wales Remembers 1914-1918 (www.cymruncofio.org) yw'r wefan swyddogol ar gyfer cael gwybodaeth am goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Mae'n lle i gael gwybodaeth am newyddion, projectau, digwyddiadau a gwasanaethau cyfeirio ar gyfer y rhaglen goffáu yng Nghymru a gynhelir rhwng 2014 a 2018