Celf a Chymru
Mae'r Amgueddfa wedi cynnwys y cyhoedd mewn pob math o weithgareddau amrywiol ers 2001, er mwyn ein helpu i ddatblygu'r casgliadau celf, arddangosfeydd, a'n dulliau o weithio gydag eraill.
Cafodd adroddiadau 'Dyfodol Arddangos Celf yng Nghymru' a 'Golygon y Dyfodol' eu cwblhau yn 2001, gan nodi cynnydd sylweddol o ran rhoi mwy o sylw i weithiau wedi'u hysbrydoli gan Gymru a gweithiau ar ôl 1945 hefyd.
Yn 2006, cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar y pryd adroddiad annibynnol 'Dyfodol Arddangos Celf Cymru', a oedd yn trafod sut y gallai'r Amgueddfa gydweithio â sefydliadau partner fel Cyngor Celfyddydau Cymru.
Enghraifft o arolwg mwy diweddar yw'r un a gynhaliwyd gan staff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu
orielau'r Bloc Canola agorodd yn hydref 2010. Roedd y staff am wybod beth oedd ymateb yr ymwelwyr i themâu'r arddangosfeydd, fel 'Gwrthryfeloedd Celfyddydol' a 'Lliw a Ffurf'.
Roeddent hefyd am wybod pa mor ddefnyddiol oedd adnoddau'r orielau, yn ogystal â chasglu gwybodaeth gyffredinol am oedran yr ymwelwyr a'u patrymau ymweld â'r orielau. Defnyddiwyd y canlyniadau i lywio'r cynlluniau ar gyfer orielau'r Adain Orllewinol a fydd yn agor yn haf 2011.
»
Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd