Project cymunedol a phecyn cymorth Traed mewn Cyffion

Ail-luniad o sut y gallai cadwyn Llyn Cerrig Bach fod wedi cael ei defnyddio.

Ail-luniad o sut y gallai cadwyn Llyn Cerrig Bach fod wedi cael ei defnyddio.

Yn 2007, creodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe broject amlweddog o'r enw Traed mewn Cyffion — Cymru a Chaethwasiaeth i gofio dau gan mlynedd ers Deddf Diddymu'r Farchnad Gaethwasiaeth. Law yn llaw ag arddangosfa fawr, cynhaliodd yr Amgueddfa broject cymunedol dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda ffoaduriaid o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd er mwyn edrych o'r newydd ar gaethwasiaeth ddoe a heddiw ac arweiniodd y gwaith at ddatblygu pecyn treftadaeth gymunedol hwn.

Cafodd pecyn Traed mewn Cyffion — Cymru a Chaethwasiaeth ei lansio ym mis Tachwedd 2009. Mae'n cynnwys adnodd electronig am ddim i helpu pobl i ddeall rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth drawsiwerydd. Ei nod yw annog unigolion, grwpiau a sefydliadau i ddysgu mwy am hanes y fasnach hon, gan gynnwys ei hetifeddiaeth gyfoes, trwy gyfrwng casgliadau'r Amgueddfa. Mae hefyd yn cynnig syniadau, gweithgareddau a gweithdai er mwyn sefydlu projectau cymunedol sy'n mynd i'r afael â phynciau fel hanes pobl dduon a threftadaeth Gymreig.

Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y project hwn. Ers ei gychwyn yn 2007, mae'r Amgueddfa wedi cydweithio'n agos ag ystod o grwpiau a sefydliadau cymunedol er mwyn adlewyrchu'n llawn y safbwyntiau hanesyddol a chyfoes ar elfen mor allweddol o hanes y byd. Rydym ni hefyd wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r pecyn cymorth hwn fel adnodd i grwpiau eraill ei ddefnyddio yn y dyfodol.