Y Gweledigaeth

Yn 2006, cyhoeddwyd ein Gweledigaeth i fod yn ‘amgueddfa ddysg o safon ryngwladol’. Fe'i cyhoeddwyd yn sgil ymgynghoriad eang â'n hymwelwyr, grwpiau ysgol, arbenigwyr o amgueddfeydd eraill, ein partneriaid yng Nghymru a'r DU, grwpiau cymuned a buddiant lleol, ein cefnogwyr a'n noddwyr, a llawer mwy.

Eich barn chiEin camau gweithredu ni

Roeddech chi'n cefnogi'r syniad o greu Amgueddfa Gelf Genedlaethol, ac Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn ystod haf 2011, cwblhawyd y dasg o weddnewid llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol. Bydd y llawr gwaelod yn cael ei ddatblygu'n Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol.

Roeddech chi'n cefnogi'r cynlluniau i ddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru..

Mae Sain Ffagan yn cael ei weddnewid yn gartref hanes Cymru, ac yn atyniad ymwelwyr gydol y flwyddyn trwy greu rhagor o lefydd dan do. Mae archaeoleg yn dod i Sain Ffagan hefyd, gan ymestyn hanes Cymru a'i phobl o'r oesoedd cynharaf hyd heddiw.

Roeddech chi eisiau chwarae mwy o ran yn eich amgueddfeydd cenedlaethol.

Rydym wedi newid ein dull o ymgysylltu â'r cyhoedd a'n rhanddeiliaid i sicrhau bod eich amgueddfeydd cenedlaethol yn adlewyrchu eich sylwadau a'ch profiadau chi. Mae'r tudalennau hyn yn cyfeirio at rywfaint o'r gwaith y mae ein staff yn ei wneud wrth ymgysylltu â phobl Cymru a thu hwnt.

»

Rhagor o wybodaeth am ein Gweledigaeth