Adnewyddu rheilffordd inclein Chwarel Vivian ac arddangosiad i'r cyhoedd, 30 Gorffennaf - 1 Mehefin 2012
Y project
Trwy gyfrwng partneriaeth â Llechi Cymru/Slate Wales rydym wedi meithrin perthynas â nifer o'r rheilffyrdd treftadaeth cul fu unwaith yn gwasanaethu'r diwydiant llechi. Rheilffordd Ffestiniog yw un o'r enwocaf, ac mae ganddi gorff mawr a brwdfrydig o wirfoddolwyr a weithiodd i adnewyddu'r llinell o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru o Borthmadog i Gaernarfon. Drwy gysylltiadau anffurfiol ag arweinwyr projectau peirianyddol gwirfoddol ar y Rheilffordd, gwyddem fod galw i weld inclein Chwarel Vivian wrth ei gwaith unwaith eto. Teimlwyd hefyd y byddai modd cynnal yr arddangosiad yn ystod digwyddiad dau ddiwrnod Rheilffordd Llyn Padarn gerllaw.
Ffrwyth y gwaith
Aeth gwirfoddolwyr Rheilffordd Ffestiniog ati i ddatgymalu, iro a gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr offer, oedd o fudd curadurol a chadwraethol mawr i ni.
Ar y diwrnod cyntaf, rhoddwyd cyflwyniad i hanes yr inclein a'r gwaith adnewyddu.
Dangosodd arddangosiadau ar y ddau ddiwrnod yr inclein wrth ei gwaith, gyda staff Rheilffordd Ffestiniog ac Amgueddfa Lechi Cymru wrth law i ateb cwestiynau.
Magodd pawb fu ynghlwm â'r gwaith ddealltwriaeth tipyn ehangach o'r sialens a'r her, yn fecanyddol ac yn ddynol, o weithio'r inclein. Bellach, gallwn gynnig esboniad tipyn mwy cynhwysfawr a phwrpasol o'r inclein i'r ymwelwyr.
Cafwyd budd mawr o rannu gwybodaeth, profiadau ac arbenigedd ymysg ein gilydd a'n hymwelwyr. Aeth pawb ati'n frwd i gymryd rhan a dyma'n hymwelwyr yn mwynhau dysgu am elfen o hanes yr ardal na allem ei hesbonio cyn hyn.
Mae arddangosiadau cyhoeddus pellach ar y gweill ac rydym yn ystyried ffyrdd o gydweithio eto yn y dyfodol.
»
Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Llechi Cymru