Ymgynghori â'r cyhoedd i lywio'n cyfraniad at ddigwyddiadau cenedlaethol
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2008 cawsom gyfle i glywed beth sydd fwyaf llwyddiannus ac o ddiddordeb i'r ymwelwyr.
Eich barn chi | Ein camau gweithredu ni |
---|---|
|
Yn 2010, aethom ati i drefnu pob math o weithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc, a hyrwyddo Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre — yr Amgueddfa agosaf at Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron. |
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009 buom yn trafod dyfodol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cyflwynwyd themâu allweddol i'r ymwelwyr:
- Pobl a Lleoedd Hynafol
- Adeiladau Byw
- Bywyd Bob Dydd
- Pobl a'r Amgylchedd
- Cyfarfod a Chyfnewid
- Gwrthdaro a Heddwch
- Crefydd a Chred
Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i 120 o ymwelwyr dros wyth diwrnod, gan gynnwys:
- Beth yw'r themâu pwysicaf ar gyfer amgueddfa genedlaethol yng Nghymru, wrth adrodd straeon pobl Cymru, i'n holl ymwelwyr — a pham?
- Pa thema ydych chi'n ei hoffi fwyaf, a pham?
- Pa themâu eraill fyddech chi'n eu dewis, a pham?
Llwyddwyd i gyflwyno'r project ailddatblygu, Creu Hanes, i'r ymwelwyr, a dweud wrthynt fod y casgliadau archaeolegol yn cael eu symud o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan. Manteisiodd llawer o ymwelwyr ar y cyfle i ailddatgan eu hedmygedd o Sain Ffagan fel lle i fynd â'u teuluoedd a'u ffrindiau am dro, gan bwysleisio'r meysydd allweddol sy'n bwysig iddynt.
Llwyddodd y digwyddiad i bwysleisio pa mor berthnasol yw Sain Ffagan — sydd yn ne-ddwyrain y wlad — i weddill Cymru.