Profiad ymwelwyr o'n harddangosfeydd — sylwi ar ymwelwyr yn oriel Gwreiddiau, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae arsylwi ar ymwelwyr mewn orielau yn dweud cyfrolau wrthym, o ran pa mor dda mae ein horielau ac arddangosfeydd wedi'u cynllunio. Nid yw'n golygu sgwrsio'n uniongyrchol â'r ymwelwyr — i'r perwyl hwn mae gennym fwy o ddiddordeb yn yr hyn mae pobl yn ei wneud.
Efallai y byddwch yn sylwi arnom yn cynnal astudiaethau gwahanol ledled ein hamgueddfeydd cenedlaethol, ac rydym bob amser yn dangos arwydd i ddweud ein bod yn cynnal ymchwil ymwelwyr. Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol, ond yn hytrach, yn holi'r pethau canlynol — i ble mae pobl yn mynd? Faint o amser maen nhw'n ei dreulio'n edrych ar arddangosfa? Ydyn nhw'n darllen gwybodaeth neu'n defnyddio'r mannau gwybodaeth rhyngweithiol? Beth yw'r mannau mwyaf/lleiaf poblogaidd mewn oriel, a faint o amser a dreulir yno?
Fe wnaethom gynnal arolwg tebyg yn oriel Gwreiddiau, a agorodd ym mis Rhagfyr 2007. Bu staff ledled yr Amgueddfa yn gweithio ar broject tri mis i olrhain ymwelwyr yr oriel o bell. Yna, cynhaliwyd gwaith grŵp ffocws gyda detholiad o ymwelwyr i weld pam bod pobl yn ymateb fel y gwnaethant, a beth oedd eu barn ynglŷn â'r oriel.
Rydym yn defnyddio canlyniadau'r arolwg i lywio'r arddangosfeydd archaeolegol newydd yn Sain Ffagan yn ogystal ag arddangosfeydd eraill yn yr Amgueddfa.