Oriel 1 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cyfrannodd aelodau’r cyhoedd, grwpiau cymuned, ysgolion a grwpiau buddiant arbennig at y gwaith o ailddatblygu’r oriel dan do hon yn 2005. Gan gydweithio ag ymwelwyr hen a newydd, roeddem am greu rhywle lle gallai pobl:

  • Ymgysylltu â’r casgliadau, archifau a’u straeon, yn gorfforol a deallusol.
  • Arbrofi gyda’r dulliau posibl o gasglu eitemau’r presennol a’r gorffennol yn y dyfodol
  • Sicrhau bod y casgliadau’n ystyrlon i holl bobl a diwylliannau amrywiol Cymru
  • Creu ystyr o’r arddangosiadau a’r casgliadau, defnyddio atgofion i’w dehongli, a dysgu oddi wrthynt
  • Mwynhau arddangosfa y gall pobl gymryd rhan ynddi, ac sy’n rhoi cyfle i’r ymwelwyr fynegi barn, a pharchu hynny
  • Canfod llwybrau dysgu fel y gall pobl archwilio y tu hwnt i’r oriel, ac i’r adeiladau hanesyddol ac arddangosiadau eraill

Ar ôl inni agor yr oriel newydd, dywedodd yr ymwelwyr wrthym eu bod yn hoffi:

  • Cyfrannu at y broses o weddnewid yr oriel
  • Helpu i greu arddangosfeydd cymuned
  • Yr oriel ar ei newydd wedd, amrywiaeth yr eitemau sy’n cael eu harddangos, y dulliau gwahanol o ddysgu amdanynt a’r straeon sydd ynddynt
  • Ymweld â’r oriel, a’r cyfleoedd i fod yn greadigol a chael hwyl — yn enwedig gwisgo’r dillad gwahanol!
  • Cael rhywun wrth law i egluro pethau
  • Y gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gennym

»

Rhagor o wybodaeth am orielau Sain Ffagan