Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sut oedd bywyd i'r plant a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cymru?
Dewch i fod yn hanesydd a chlywed tystiolaeth go iawn gan blant fel Henrietta Franklin, 11 oed, a oedd yn gweithio yn tynnu dramiau o lo ym Merthyr Tudful. Cewch ddarganfod sut y chwaraeodd y plant a oedd yn gweithio yn y pyllau glo ran yn trawsnewid Cymru i'r hyn rydyn ni'n ei adnabod heddiw.
Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n profi'r un amodau gwaith â’r plant oedd yn gweithio.
Cewch dynnu dram, cropian drwy bwll glo, gweld ac arogli gorffennol diwydiannol Cymru.
Mae Plant y Pwll Glo yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth.
Sesiwn ryngweithiol yw hon sydd ag elfennau corfforol. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Iechyd a Lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n cwmpas ni.
Amcanion dysgu:
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650