Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Synau’r Deinosoriaid

Sut ydyn ni'n gwybod beth oedd deinosoriaid yn ei fwyta? Oedd y T. rex yn chwibanu, yn chwyrnu, neu'n brefu? Ydych chi'n ddigon dewr i fod yn riant deinosor? 

  

Defnyddiwch ffosilau go iawn o gasgliadau'r Amgueddfa i ddysgu mwy am ddeinosoriaid, beth fydden nhw'n ei fwyta, sut fydden nhw'n byw, eu hamgylchfyd a'u cynefinoedd. Rhowch gynnig ar adeiladu nyth, a gweld pa fath o riant fyddech chi.  

  

I gloi, gallwch chi gymryd rhan mewn stori fywiog, swnllyd, am fforest yn oes y deinosoriaid 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
  • Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Llun o grŵp o blant yn rhuo fel deinosor
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk