Llwybrau Amgueddfa

Adnodd Saesneg i ddysgwyr i'w ddefnyddio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Beth am ddefnyddio ein hadnoddau addysg ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) i'ch helpu chi i archwilio’r amgueddfa, ei horielau a'i chasgliadau?  

Gall ein hadnoddau eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad wrth ymarfer eich Saesneg. 

Mae croeso i chi lawrlwytho ac argraffu copïau a dod â nhw gyda chi. Defnyddiwch yr adnoddau i ategu ymweliadau hunan-dywys yn yr amgueddfa, ac yn yr ystafell ddosbarth, cyn ac ar ôl ymweld â ni. Mae adnoddau i athrawon ar gael i'w lawrlwytho hefyd ar gyfer pob adnodd addysg.

 

Mae nifer o'n hadnoddau ESOL bellach wedi'u optimeiddio ar gyfer defnydd digidol. Cliciwch ar y dolenni isod i gael fersiynau rhyngweithiol o'n hadnoddau ESOL.

ESOL Pre-Entry/Lower Beginner | St Teilo’s Church | with Teacher's notes

ESOL Entry Level 1 | Beginner St Teilo’s Church | with Teacher’s Notes

Ar gyfer fersiwn y gellir ei argraffu, sgroliwch i lawr a dewiswch yr adnodd cywir.

 

Cwricwlwm

ESOL: Cyn Mynediad. Mynediad 1, 2 a 3. Lefel 1 a 2.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk