Ymweliad Rhithiol
Ystafell Ddosbarth Rufeinig: Gweithdy Rhithiol
Sesiwn chwarwe rôl sy’n rhoi cyfle i chi ddysgu sut oedd y Rhufeiniaid yn addysgu eu plant. Trwy gyfrwng iaith, rhifedd a llythrennedd, bydd disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am y gymdeithas Rufeinig dan lygaid barcud athro Rhufeinig. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.
Hyd:
1 awr
Cwricwlwm
Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Oed: 8-11
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk