Gweithdy Amgueddfa

Gwledda a Chaethwasiaeth

Darganfod ac Archwilio

Mae ymennydd paun, pathew wedi’i stwffio ac wystrys i gyd ar y fwydlen yn y wledd Rufeinig hon! Bydd disgyblion yn cael blas ar fywyd pobl ar ddau ben y gymdeithas Rufeinig – y tlawd a'r cyfoethog.

Cymryd Rhan

Croeso i Dŷ’r Cadlywydd yng Nghaer Isca! Rydych chi wedi’ch gwahodd i wledd – ond a fyddwch chi’n cael mwynhau'r parti fel gwestai anrhydeddus, neu'n cael eich caethiwo a'ch gorfodi i weini’r gwesteion? Rhowch eich dillad Rhufeinig gorau ymlaen, rhannu ‘bwyd’ Rhufeinig a dysgu mwy am y gymdeithas Rufeinig gan eich gwesteiwr.

Am y Sesiwn hon

Mae ‘Gwledda a Chaethwasiaeth’ yn archwilio’r heriau roedd pobl gaeth yn eu hwynebu yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Caiff disgyblion eu hannog i rannu sut maen nhw’n teimlo am yr anghydraddoldeb hwn yn ystod y sesiwn drafod ar y diwedd.

Er nad yw’r sesiwn hon yn cynnwys bwyd go iawn, mae’r arfer Rhufeinig o fod yn sâl yn ystod gwleddoedd i wneud lle i ragor o fwyd yn cael ei drafod. Pwysleisir bod hyn yn rhywbeth na ddylech chi ei wneud, ond mae'n cael ei ddangos yn rhan o'r gweithgaredd chwarae rôl.

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: 5 Ionawr - 27 Mawrth 2026
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk