Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archwiliwch hanes hynod (a ffiaidd!) meddyginiaeth Rufeinig, o foddion llysieuol i bwythau gwallt ceffyl, a hyd yn oed llifio braich neu goes i ffwrdd! Dewch i ddysgu am rôl duwiau Rhufeinig wrth wella cleifion yn y sesiwn chwarae rôl ryngweithiol a bywiog hon.
Dewch i weld ‘Medicus’ Isca, y meddyg Rhufeinig oedd yn gyfrifol am drin milwyr yn y Gaer, a dysgu sut fyddai’r Medicus wedi trin eich pen tost, dannoedd, anafiadau a mwy!
Mae’r sesiwn hon yn trafod amrywiaeth o anafiadau, salwch a thriniaethau – mae’n gallu bod braidd yn waedlyd!
Mae’r sesiwn ‘Medicus’ wedi’i datblygu yn benodol ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, ond rydyn ni’n deall efallai bydd rhai disgyblion (ac athrawon hefyd!) yn ei chael hi’n anodd trafod anafiadau a gwaed.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk