Gweithdy Amgueddfa

Medicus – meddyginiaeth Rufeinig

Meddyginiaethau llysieuol, trychu coes neu fraich i ffwrdd, pwythau blew ceffyl – dyna rai o driniaethau’r meddyg Rhufeinig. Dewch i ddysgu mwy am feddygaeth Rufeinig a chyfraniad y duwiau at wella cleifion, mewn sesiwn chwarae rôl. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.

 

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: 6 Tach - 1 Rhag 2023 & 8 Ion - 16 Chwef 2024
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk