Gweithgaredd Addysg

Cam 6: Rhifedd

Arolwg newid hinsawdd yw Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, a chaiff ei redeg gan Amgueddfa Cymru.

Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o’r DU yn plannu bylbiau ar dir yr ysgol ac yn cofnodi eu twf er mwyn astudio newid hinsawdd. Maen nhw’n cadw cofnodion tywydd a dyddiadau blodeuo’r bylbiau i weld sut mae newidiadau yn y tywydd yn effeithio ar flodau cennin Pedr a chrocws. Mae’r project wedi bod yn mynd yng Nghymru ers 2005 ac ar draws y DU ers 2012.

Eleni byddwn yn gwahodd ysgolion i astudio’r data hwn eu hunain! Rydyn yn rhannu set lawn o ddata a chwisiau rhifedd bychan sy’n canolbwyntio ar ddeall data o graffiau.

Cwricwlwm

Gall dysgwyr:

• Cynrychioli data gan ddefnyddio: rhestrau, siartiau cyfrif, tablau, diagramau, thablau amledd, siartiau bar, siartiau data wedi'u grwpio, graffiau llinell a graffiau trosi.

• Tynnu a dehongli gwybodaeth o ystod gynyddol o ddiagramau, amserlenni a graffiau (gan gynnwys siartiau cylch).

• Defnyddio cymedr, canolrif, modd ac ystod i ddisgrifio set ddata.

Ysgol Llandwrog yn cofnodi data tywydd i'r wefan.