e-Lyfr
Agraffiadydd yng Nghymru
Agraffiadydd yng Nghymru. Taith drwy gelf, gwyddoniaeth a Chymru.
ilyfr - Agraffiadydd yng Nghymru (Gellir ei weld ar ddyfeisiau Apple)
elyfr - Agraffiadydd yng Nghymru (Gellir gweld fel cyswllt ar unrhyw ddyfais)
Ffeil PDF ar gael isod.
Anelir yr adnodd hwn at blant 7-11 oed. Gellir ei ddefnyddio yn ystod ymweliad â'r Amgueddfa, neu yn yr ystafell ddosbarth.
Yn yr adnodd hwn byddwch yn:
- Dysgu am grŵp enwog o artistiaid – yr Argraffiadwyr
- Darganfod gwyddor lliw a golau
- Darganfod pa fath o le oedd Caerdydd a de Cymru ar ddiwedd oes Fictoria
- Archwilio casgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.