Creu a Gwneud
Torch Nadolig Uwchgylchu
Creu torch Nadolig wedi’i uwchgylchu gan ddefnyddio hen ffabrig neu ddeunyddiau cartref gwastraff.
Bydd angen:
- Plât papur neu ddarn o gerdyn wedi torri i mewn i siâp tebyg.
- Stribedi o hen ffabrig
- Darn o rhuban neu llinyn
Cyfarwyddiadau:
1. Torrwch gylch o fewn canol y cerdyn neu blât. Dyma fydd ffrâm eich torch Nadolig.
2. Clymwch stribedi o ffabrig o gwmpas y ffrâm. Does dim angen glud!
3. Parhewch i glymu’r stribedi, tan faer y torch yn orlawn.
4. Clymwch ddarn o ruban neu linyn o gwmpas y torch. Mae hi nawr yn barod i’w hongian!
TIP: Yn lle defnyddio ffabrig, beth am ddefnyddio deunyddiau fel papur swigod neu bapur Nadolig? Beth allech chi ffeindio?