Creu a Gwneud

Celf Marmor

Ymchwilio i'r berthynas rhwng olew a dŵr, a chreu celf farmor syml wedi'i hysbrydoli gan Fâs Jenkins.

Bydd angen:

  • Bowlen o ddŵr
  • Olew (fe ddefnyddion ni olew llysiau)
  • Paent (fe ddefnyddion ni paent acrylig du a brown)
  • Papur
  • Cynhyrfwr (fe ddefnyddion ni ffon coctel)

Cyfarwyddiadau:

1. Ychwanegwch 3-5 diferyn o olew i'r dŵr. Ydych chi'n sylwi beth sy'n digwydd ? Nid yw olew a dŵr yn cymysgu. Mae olew yn llai trwchus na dŵr, felly mae'n arnofio ar ben y dŵr.

2. Ychwanegwch 3-5 diferyn o baent i'r dŵr a'r olew. Mae paent acrylig yn seiliedig ar ddŵr, felly mae'n cymysgu â'r dŵr a bydd yn aros ar wahân i'r olew. Cymysgwch popeth gyda’i gilydd. Efallai bydd y cynnwys yn edrych fel un lliw, ond peidiwch boeni.

3. Gosodwch ddarn o bapur ar ben y cymysgedd. Mae ond angen aros am tua 2-3 eiliad

4. Tynnwch y papur a'i roi o'r neilltu i sychu.

5. Rydych chi wedi creu celf marblis! AWGRYM: Arbrofwch gyda gwahanol gymhareb o dwr ac olew. Sut ydy mwy neu lai o olew yn effeithio’r patrwm gorffenedig?

Adnoddau

Cyffredinol

Celf Marmor