Creu a Gwneud

Echidna Wedi’i Ailgylchi

Dathlwch ddiwedd gaeafgysgu gan greu echidna wedi’i ailgylchi o hen lyfrau.

Bydd angen:

Hen lyfr (un gyda 100 tudalen neu lai, neu os oes mwy, rhwygwch nhw mas)

Siswrn

Tap gludiog

Cerdyn i greu llygaid a thrwyn (dewisol)

Cyfarwyddiadau:

1. Gan ddechrau gyda thudalen cyntaf eich llyfr, plygwch y tudalen mewn hanner (tuag at ganol y llyfr) gyda phlyg cadarn.

2. Plygwch gornel top y tudalen tuag at ganol y llyfr, wedyn plygwch gornel gwaelod y tudalen yn yr un modd.

3. Ailadroddwch y proses nes bod y tudalennau i gyd wedi’i phlygu.

4. Ar ôl i chi orffen, gwasgarwch y tudalennau, a gan ddefnyddio tap gludiog ewch ati i selio'r tudalen gyntaf i glawr y llyfr.

5. Ewch ati i ailadrodd y cam yma gyda thudalen olaf y llyfr, a’r clawr cefn.

6. Gadwech y darn o’r clawr sydd o dan yn yr Echidna yn ei le, ond torrwch y gweddill i ffwrdd.

7. Crëwch fanylder ar wyneb eich echidna. Fe ddefnyddion ni cerdyn du a phaent gwyn!

Adnoddau