Creu a Gwneud

Celf Gwlân Rholbren

Rydyn ni wedi defnyddio lliwiau’r enfys ond gall lliwiau neon roi gorffeniad fflwroleuol!                                                                                                                                       

Bydd angen:

  • Rholbren
  • Tâp gludiog
  • Paent poster o wahanol liwiau
  • Gŵlan
  • Papur gwyn A3 neu A4
  • Hambwrdd ffoil mawr neu blât papur mawr

Cyfarwyddiadau:

  1. Paentiwch 3 blob o baent ar yr hambwrdd neu’r plât papur.
  2. Lapiwch y gwlân yn dynn dros y rholbren a glynnu’r ddau ben gyda’r tâp i’w ddal yn ei le.
  3. Rholiwch y rholbren dros y paent ar yr hambwrdd.
  4. Rholiwch y rholbren dros y papur gwyn i greu print

Adnoddau