Creu a Gwneud

Y Gylchred Dwr Mewn Bag

Gall dŵr gyfnewid rhwng solid, hylif a nwy yn dibynnu ar ei dymheredd Dwr hylifol rydym yn gweld gan amlaf – dyma beth ddefnyddiwn ar gyfer golchi, glanhau, coginio, tyfu planhigion ac, wrth gwrs, yfed. Mwy neu lai popeth!

Mae mwyafrif o ddŵr ar y Ddaear yn y cefnforoedd, gan gynnwys y capiau iâ a ffynonellau eraill megis afonydd, llynnoedd a chymylau. Mae cyfanswm y dŵr ar y Ddaear fwy neu lai yn sefydlog dros amser, ond mae union leoliad y dŵr ar y Ddaear bob amser yn newid. Er enghraifft, rhai dyddiau mae'r tywydd yn sych a rhai dyddiau mae’r glaw yn syrthio’n drwm! Gelwir y symudiad dŵr hwn o amgylch y blaned yn “gylchred y dŵr”.

Ni all ddwr symud o amgylch y blaned heb egni gwres o’r haul. Wrth i’r haul cynhesu dwr mae’r dwr yn anweddu, yn newid o hylif i nwy o’r nwy anwedd dwr. Wrth i’r anwedd dwr godi, mae’n oeri ac yn cyddwyso yn ol mewn i ddiferion man o ddwr hylif. Os ddaw digon o’r diferion yma at eu gilydd, gallant ffurfio cymylau, ac os ydy digon o gymylau’n ffurfio bydd y dwr yn syrthio yn ol I’r ddaear fel glaw. Mae’r broses wedyn yn ail-ddechrau, ac yn parhau am byth!

 Archwiliwch y gylchred ddŵr yn yr ystafell ddosbarth gyda'r arbrawf hwn!

Llun o'r gylchred dwr

Adnoddau