Adnodd Dysgu

Project Natur Drefol

Cyfres o weithgareddau rhad ac am ddim yw’r Her Archwilydd Trefol, sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm, ac wedi’u cynllunio i ysbrydoli pobl ifanc i ddarganfod byd natur ac ymchwilio i'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u hanelu at ddisgyblion 8-14 oed ac maent yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cymreig newydd.

Gall y Disgyblion:

  • Ddysgu am yr heriau y mae natur yn eu hwynebu drwy ein hwb cynnwys ar-lein.  
  • Dysgu am yr heriau hyn yn y byd go iawn mewn cyfres o weithgareddau rhyngweithiol a ddyluniwyd i ddod â dysgu’n fyw, y tu allan i'r ystafell ddosbarth.  
  • Darganfod natur ar garreg eu drws, a'r heriau mae'n eu hwynebu, drwy gwblhau Her Archwilydd Trefol eu hunain.  
  • Rhannu’u canfyddiadau â gwyddonwyr Amgueddfa Cymru a dod yn eiriolwyr dros y blaned.

Sut Mae Hyn yn Gweithio?

Dewch i gael eich ysbrydoli ar ffyrdd ymarferol o ddod â'r heriau mawr sy'n wynebu natur, a syniadau mawr gwyddoniaeth yn fyw yn ein pecyn ARCHWILIO.

Archwilio: Newid yn yr Hinsawdd

Archwilio: Llygredd

Archwilio: Cynefinoedd Trefol

Archwilio: Ymchwiliadau Awyr Agored

Cymerwch gipolwg ar ein tudalennau DARGANFOD i ganfod atebion i'ch cwestiynau mawr am natur a dysgu sut mae gwyddonwyr yn gweddnewid ein dealltwriaeth o fyd natur. Yma, gallwch ymgolli mewn straeon am gasgliadau'r Amgueddfa, gwyddonwyr ac ymchwil.

Darganfod: Newid yn yr Hinsawdd

Darganfod: Llygredd

Darganfod: Cynefinoedd Trefol

Helpwch eich disgyblion i ddatblygu eu syniadau a’u cwestiynau un cam ymhellach ac Ymchwilio i natur drefol gyda'u Her eu hunain. Gall disgyblion sy'n cwblhau’r Her wneud cais i rannu eu harchwiliadau yn ystod diwrnod dathlu'r Amgueddfa a chwrdd â gwyddonwyr.

Tudalen Ymchwilio

Diolch i bob un o noddwyr y Project Natur Drefol hyd yn hyn am eu haelioni, gan gynnwys y rhai sy'n dymuno aros yn ddienw. Rydym yn cydnabod y rhoddwyr canlynol am eu cyfraniadau rhagorol i'r ymgyrch:

 

Y ddôl drefol yn yr amgueddfa

© Slinkachu

© Slinkachu

Y ddôl drefol yn yr amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk