Gweithdy Rhithiol

Gwledda a Chaethwasiaeth yn oes y Rhufeiniad (Gweithdy Rhithiol)

Darganfod ac Archwilio

Mae ymennydd paun, pathew wedi’i stwffio ac wystrys i gyd ar y fwydlen yn y wledd Rufeinig hon! Bydd disgyblion yn cael blas ar fywyd pobl ar ddau ben y gymdeithas Rufeinig – y tlawd a'r cyfoethog.

Cymryd Rhan

Croeso i Dŷ’r Cadlywydd yng Nghaer Isca! Rydych chi wedi’ch gwahodd i wledd – ond a fyddwch chi’n cael mwynhau'r parti fel gwestai anrhydeddus, neu'n cael eich caethiwo a'ch gorfodi i weini’r gwesteion? Cewch flas ar ‘fwyd’ Rhufeinig a dysgu mwy am y gymdeithas Rufeinig gan eich gwesteiwr.

Am y Sesiwn hon

Mae ‘Gwledda a Chaethwasiaeth’ yn archwilio’r heriau roedd pobl gaeth yn eu hwynebu yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Caiff disgyblion eu hannog i rannu sut maen nhw’n teimlo am yr anghydraddoldeb hwn yn ystod y sesiwn drafod ar y diwedd.

Er nad yw’r sesiwn hon yn cynnwys bwyd go iawn, mae’r arfer Rhufeinig o fod yn sâl yn ystod gwleddoedd i wneud lle i ragor o fwyd yn cael ei drafod. Pwysleisir bod hyn yn rhywbeth na ddylech chi ei wneud, ond mae'n cael ei ddangos yn rhan o'r gweithgaredd chwarae rôl. 

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru: Dyniaethau 

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Oed: 8-11

Amcanion dysgu:

  • Darganfod gwledd Rufeinig o safbwynt gwestai mewn parti Rhufeinig, a chaethwas Rhufeinig.
  • Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
  • Ystyried bywyd bob-dydd a chyfartaledd ar gyfer gwahanol bobl adeg y Rhufeiniaid a heddiw.
  • Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.

Bl. 3&4 yn mwynhau eu gwers rithwir 'Gwledda a Chaethwasiaeth Rhufeinig'! Ysgol Gynradd Gymunedol Crickhowell Trwy Twitter.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk