Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae gan bobl Cymru hanes hir o ymgyrchu a phrotestio yn erbyn anghyfiawnder, annhegwch ac anghydraddoldeb. Mae llawer o ffyrdd gall pobl ymgyrchu neu brotestio.
Mae pobl o bob rhan o Gymru wedi protestio drwy gydol hanes. Mae’r map yma’n dangos rhai o’r protestiadau sy’n cael sylw yn yr adnodd yma. Allwch chi feddwl am rai eraill i’w hychwanegu at y map? Pa brotest ddigwyddodd agosaf atoch chi?
O’r Swffragetiaid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif i brotestiadau Mae Bywydau Duon o Bwys yn 2020, mae protestwyr wedi ymgasglu yn lluoedd ar gyfer gorymdeithiau a ralïau. Yn aml, bydd protestwyr yn cario baneri neu blacardiau er mwyn dangos pwy ydyn nhw neu beth yw eu hachos.
Mae’r lluniau yma’n dangos nifer o orymdeithiau a ralïau yng Nghymru drwy gydol hanes, yn protestio am lawer o wahanol achosion.
Mae’r ffilm yma’n dangos trigolion Capel Celyn a’u cefnogwyr yn protestio yn erbyn boddi eu cartrefi er mwyn creu cronfa ddŵr i Lerpwl. Fel rhan o’r brotest, gorymdeithiodd y trigolion drwy Lerpwl gyda baneri.
Yn aml pan fydd pobl yn protestio, maen nhw am ei gwneud hi’n glir pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n protestio amdano. Er mwyn gwneud hyn, byddan nhw’n aml yn cario baneri, placardiau, neu ddeunydd print mewn gorymdeithiau a ralïau.
Paentiodd yr artist Mary Lloyd Jones y faner yma ar gyfer yr ymgyrch IE cyn y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Roedd yn rhaid i bleidleiswyr benderfynu a oedden nhw am gael cynulliad i Gymru gyda phwerau datganoledig.
Gwnaed y faner hon gan Rose Mabel Lewis o Dongwynlais. Roedd hi'n llywydd Cymdeithas Bleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Arweiniodd Rose adran de Cymru yn yr orymdaith Great Suffrage yn Llundain ym 1911.
Baneri
Yn hanesyddol, gwnaed baneri i’w cario ar flaen gorymdeithiau. Yn aml, byddai’r rhain yn gywrain ac yn lliwgar i dynnu sylw at yr achos.
Phlacardiau
Mae modd argraffu placardiau a phosteri sawl gwaith am gost isel. Yn aml mewn protestiadau fe welwch chi nifer o bobl yn cario placardiau ac yn chwifio baneri.
Mae mwy a mwy o brotestwyr yn cario placardiau wedi’u gwneud gartref. Mae modd gwneud y rhain yn gyflym ac yn rhad ar fyr rybudd. Maen nhw’n aml yn cynnwys chwarae ar eiriau.
Mae’r ffilm yma’n dangos aelodau o Gwrthryfel Difodiant yn achosi aflonyddwch er mwyn tynnu sylw at yr Argyfwng Hinsawdd. Mae llawer o’r protestwyr yn cario baneri a phlacardiau gyda sloganau i dynnu sylw at eu hachos.
Mae bathodynnau protest yn cael eu gwisgo i ddangos cefnogaeth i achos. Maen nhw’n aml yn cael eu gwisgo gan bobl o ddydd i ddydd a gallan nhw fod yn symbol o gyd-sefyll. Mae bathodynnau yn gallu bod yn ffordd gynnil o brotestio.
You can see more protest badges from the Amgueddfa Cymru collections online.
Ystyr anufudd-dod yw pan fydd pobl yn mynd ati’n fwriadol i wrthod ufuddhau i ddeddfau neu reolau penodol er mwyn protestio yn eu herbyn. Mae anufudd-dod sifil yn fath heddychlon a di-drais o anufudd-dod.
Mae enghreifftiau o anufudd-dod yn cynnwys Terfysgoedd Beca yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r Tân yn Llŷn yn 1936.
Llun yw hwn o ysgythriad sy’n dangos Merched Beca yn ymosod ar dollbyrth.
Ymosododd Merched Beca ar dolldai a thollbyrth a’u dinistrio yng nghanol y 19eg ganrif er mwyn protestio yn erbyn gorfod talu am ddefnyddio’r ffyrdd. Mae’r terfysgwyr yn adnabyddus am wisgo dillad menywod er mwyn cuddio pwy oedden nhw.
Cafodd Penyberth, ffermdy yng Ngwynedd, ei ddinistrio yn 1936 er mwyn adeiladu gwersyll hyfforddi ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol.
Ar 8 Medi 1936, rhoddodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams sied ar y safle ar dân. Fe aethant i swyddfa’r heddlu o’u gwirfodd a chael eu carcharu.
Yn aml, bydd protestwyr yn ceisio achosi’r aflonyddwch mwyaf er mwyn tynnu sylw at eu hachos.
Grŵp gweithredu uniongyrchol yw Cymdeithas yr Iaith sy’n ymgyrchu dros yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg. Daeth y grŵp i amlygrwydd yn y 1960au.
Mae’r ffilm yma’n dangos dulliau ymgyrchu a ddefnyddir gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith. Mae’r ffilm yn dangos parodrwydd protestwyr i gael eu harestio, a’u carcharu hyd yn oed, am eu gweithredoedd.
Pan fydd anghydfod yn ddiwydiannol (yn ymwneud â gwaith), bydd gweithwyr yn aml yn atal eu llafur ac yn mynd ar streic. Mae rhai o’r streiciau hiraf yng ngwledydd Prydain wedi digwydd yng Nghymru.
Dechreuodd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ym mis Tachwedd 1900 gan barhau am dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn i gyd, ni fyddai gweithwyr oedd ar streic yn cael ceiniog o dâl.
Mae’r ffilm yma’n dangos staff o ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon ar streic. Maen nhw wedi ffurfio llinell biced o flaen eu gweithle. Roedd y streic yma’n un o’r anghydfodau diwydiannol hiraf yng ngwledydd Prydain – a barodd bron i 1000 o ddiwrnodau.
Mae ymprydio neu streic newyn yn fath o brotest di-drais lle mae’r protestiwr yn gwrthod bwyd er mwyn tynnu sylw at ei achos. Arestiwyd a charcharwyd nifer o swffragetiaid am eu gweithredoedd. Roedd y swffragetiaid a oedd yn ymprydio yn aml yn cael eu bwydo dan orfodaeth yn ystod eu carchariad.
Cyflwynwyd y fedal yma i Kate Williams Evans yn 1912 wedi iddi fynd ar streic newyn yng ngharchar Holloway.
Grŵp o Ymgyrchwyr Benywaidd oedd y Swffragetiaid oedd yn ymgyrchu ar ddechrau’r 19eg ganrif am hawl menywod i bleidleisio. Roedden nhw’n aml yn ymgyrchu gyda’r slogan ‘Pleidleisiau i Fenywod’ ac roedd ganddyn nhw ganghennau ledled Cymru.
Yn yr 1980au, fe wnaeth Gwynfor Evans fygwth ymprydio wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod sefydlu sianel deledu Gymraeg. Ymgyrch oedd hon a ddechreuodd yn y 1970au i gael sianel deledu Gymraeg. Lansiwyd S4C yn 1982. Roedd hyn yn allweddol yn nhro pedol y Llywodraeth a arweiniodd at greu S4C.
Mae’r ffilm yma’n dangos Gwynfor Evans yn siarad am bwysigrwydd sianel deledu Gymraeg cyn lansio S4C. Yn y ffilm, mae’n sôn am y ffaith ei fod yn barod i ymprydio i gyflawni ei nod.
Mae nifer o ddulliau eraill y gall pobl eu defnyddio fel ffordd o brotestio. Rydyn ni wedi rhestru rhai yma er mwyn i chi ymchwilio ymhellach iddyn nhw.
Terfysgoedd
Weithiau, gall gwrthdystiadau cyhoeddus droi’n derfysgoedd. Mae terfysgoedd yn aml yn dreisgar lle gall difrod i eiddo neu drais yn erbyn pobl ddigwydd. Gall terfysgoedd fod yn ddigymell ac yn llai trefnus nag ymgynnull cyhoeddus.
Caneuon Protest
Yn aml, mae pobl yn ymateb i anghyfiawnder yn greadigol, gan gynnwys drwy gyfansoddi caneuon. Cafodd llawer o ganeuon protest Cymraeg eu cyfansoddi yn y 1960au a’r 1970au gan artistiaid fel Dafydd Iwan a Meic Stevens.
Taflenni a chylchgronau ‘zines’
Er mwyn ennill cefnogaeth i brotest, bydd pobl yn aml yn postio taflenni neu gylchgronau sydd wedi’u gwneud gartref drwy ddrysau yn eu cymunedau.
Ysgrifennu llythyrau
Mae ysgrifennu at bobl mewn grym, er enghraifft ASau, i gefnogi achos yn ddull arall o brotest. Yn aml, bydd protestwyr hefyd yn ceisio ennill cefnogaeth enwogion a allai fod â ‘llais’ cryfach.
Boicotio
Pan fydd unigolyn neu grŵp yn gwrthod defnyddio brand penodol mewn protest yn erbyn ymddygiad moesol, cymdeithasol neu amgylcheddol, gelwir hyn yn foicot. Bydd boicotio brand yn achosi i refeniw’r brand ostwng.
Meddiannu
Mae meddiannu, neu eistedd yn rhywle a gwrthod symud, yn fath heddychlon o anufudd-dod sifil. Drwy achosi aflonyddwch, bydd protestwyr yn tynnu sylw at eu hachos.
Penlinio ac ystumiau symbolaidd eraill
Mae modd gwneud ystumiau er mwyn dangos undod a chefnogaeth i achos. Yn aml, bydd unigolion uchel eu proffil yn dangos undod fel hyn o flaen cynulleidfaoedd mawr.
Ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol
Oherwydd poblogrwydd y cyfryngau cymdeithasol heddiw, mae llawer o bobl yn eu defnyddio fel llwyfan i brotestio. Gall y rhain fod yn brotestiadau sydd wedi’u cydlynu neu’n brotest gan unigolion.
Darganfyddwch fwy o’n casgliadau sy’n gysylltiedig ag Ymgyrchu a Phrotest ar wefan Casgliad y Werin.
Can you add to the story? Have you been on a protest? You can upload your own photos to the People's Collection Wales website and be part of Welsh history.
Allwch chi ychwanegu at y stori? Ydych chi wedi bod mewn protest? Gallwch uwchlwytho eich lluniau eich hunain i wefan Casgliad y Werin a bod yn rhan o’n hanes.
Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.