Taith 360º

Archwiliwch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn 360°

Cliciwch ar y dolenni i weld delweddau 360° o wahanol adeiladau ac orielau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Swyddfa Bost Blaen-waun | Mae’n debyg mai swyddfa bost pentref Blaen-waun yw’r leiaf yng Nghymru

Llys Llywelyn: Neuadd Ganoloesol | Mae Llys Llywelyn yn ail-greu un o lysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd a ddefnyddiwyd yn ystod y 13eg ganrif

Ysgol Maestir | Mae’r ysgol hon o Oes Fictoria yn wahanol iawn i’n hysgolion ni yn y 21ain ganrif

Tai Teras Rhyd-y-car | Richard Crawshay a gododd y rhes fechan hon tua 1795 ar gyfer gweithwyr yn ei gloddfa mwyn haearn

Ffermdy ac adeiladau Kennixton | Mae’r adeilad yn nodweddiadol o ffermdai Bro Gŵyr yn ne-orllewin Cymru

Tolldy | Lle byddai’r casglwr tollau yn casglu arian gan deithwyr yn dâl am ddefnyddio’r ffordd

Ffermdy ac iard Llwyn-yr-eos | Heddiw mae’r ffermdy wedi’i addurno fel y byddai ar ddechrau’r 20fed ganrif

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale | Ar un adeg roedd sefydliadau’r gweithwyr, neu’r ‘stiwts’ ar lafar gwlad, yn beth cyffredin yn nhrefi a phentrefi diwydiannol Cymru

Eglwys Sant Teilo | Credir bod Eglwys Sant Teilo wedi'i chodi tua diwedd y 12fed ganrif neu yn y 13eg ganrif ar safle eglwys Geltaidd gynharach

Oriel Cymru... | Yn yr oriel hon gallwch edrych ar hanes Cymru o sawl safbwynt, gan rannu eich teimladau a’ch profiadau chi

Oriel Byw a Bod | Dyma oriel sy’n canfod rhyfeddodau yn y pethau bychain

Ffermdy Abernodwydd | Mae Abernodwydd yn ffermdy ffrâm bren a thô gwellt