Adnoddau Dysgu

Goresgyniad y Rhufeiniaid

Cliciwch y fideo i weld sut y ledodd y Rhufeiniaid drwy Gymru.

Goresgyniad y Rhufeiniaid

Dechreodd y Rhufeiniaid oresgyn Prydain yn y flwyddyn OC 43. Dechreuodd goresgyniad Cymru yn OC 47. Wnaeth llwythau Cymru ddim ildio’n hawdd. Fe gymrodd hi tan OC 78 i’r Rhufeinaid oresgyn Cymru gyfan.

Mae Cymru wedi bod yn lle anodd ei oresgyn erioed. Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, roedd mwy na rhyfelwyr ffyrnig i ddelio â nhw.

Mae Cymru’n llawn mynyddoedd. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i’r Rhufeiniaid deithio’n gyflym drwy Gymru.

Defnyddiai rhyfelwyr Cymru ddulliau ymladd guerrilla. Yn lle un brwydr fawr, bydden nhw’n trefnu sawl ymosodiad bach. Yn aml bydden nhw’n ymosod ac yn dianc yn gyflym i ddiogelwch y mynyddoedd a’r coedwigoedd.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Map goresgyniad y Rhufeiniaid

Goresgyniad y Rhufeiniaid

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk