Creu a Gwneud
Celf Olion Bysedd Gwenyn
Dathlwch y gwanwyn gan greu celf gwenyn unigryw!
Bydd angen:
Cefndir i’ch gwaith celf. Fe ddefnyddion ni cerdyn du
Paent melyn
Pen marcer du neu ben ffelt du
Pensiliau/creons/pastel I ychwanegu blodau i’ch darlun gwenyn
Cyfarwyddiadau:
1. Cymerwch luniau o flodau gwanwyn tra mas am dro, neu ymchwiliwch wahanol fathau ar lein. Neu, byddwch yn greadigol a chreu cynlluniau blodau eich hunan!
2. Addurnwch eich papur gyda blodau, i greu cefndir i’ch gwenyn.
3. Crëwch eich gwenyn gan ddodi paent melyn ar y papur gyda’ch bysedd.
4. Ar ôl i’r paent sychu, os dymunwch, defnyddiwch y pen ffelt i ychwanegu adenydd. Fe defyddion ni pensil gwyn