Gweithdy Amgueddfa
Gweithdy: Byd Gwych Deinosoriaid
Beth fydd palaeontolegydd yn ei wneud ys gwn i? Dewch i ddysgu'r gwir yn y gweithdy hwn! Byddwch chi'n cyfarfod gwyddonwyr go iawn o Gymru a thu hwnt, ac yn dysgu am sgiliau a chefndiroedd amrywiol palaenotolegwyr.
Defnyddiwch ffosilau go iawn o gasgliadau'r Amgueddfa i deithio nôl mewn amser. Dysgwch am y berthynas rhwng deinosoriaid, planhigion ac anifeiliaid eraill, a'u cynefin. Yna, defnyddiwch dystiolaeth y ffosilau i ail-greu Parc Deinosoriaid – byd o oes y deinosoriaid.
Hyd:
1 awr
Tâl:
Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk