Clowyr Bach: Plant y Maes Glo
Sut oedd bywyd plant gartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith yn y 19eg ganrif?
Pa waith fyddai plant yn ei wneud danddaear? Gyda pha deganau a gemau fydden nhw'n chwarae? Sut mae'r diwrnod ysgol wedi newid? Dewch i ddarganfod hanes plant meysydd glo Cymru mewn gweithdy rhyngweithiol llawn hwyl dan arweiniad ein staff addysg.
Rydyn ni’n argymell bod y disgyblion yn mynychu mewn gwisg Fictoraidd neu wisg glöwr.
Cwricwlwm
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Iechyd a Lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Mae ieithoedd yn ein cysylltu ni.
Amcanion dysgu:
- Arwain a chwarae rolau gwahanol a deall cyfrifoldebau plant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Meithrin lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwytnwch ac empathi drwy ddysgu am iechyd a lles plant yn y gorffennol a'u bywydau nhw heddiw.
- Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gysylltu a chymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am fywyd bob dydd plant oes Fictoria yn y cartref, yr ysgol a'r gwaith.
- Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy gymharu eu bywydau nhw â bywydau plant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650