Gweithdy Amgueddfa

Gwersyll Rhufeinig

Cymerwch ran mewn cyfres o heriau i ddarganfod mwy am fywyd Milwr Rhufeinig. Dysgwch am y Rhufeiniaid a arferai fyw yng Nghaerllion a darganfod pa sgiliau yr oedd y Rhufeiniaid yn edrych amdanynt mewn milwr. Byddwch yn dysgu am arfwisg Rufeinig ac yn cael eich profi ar eich sgiliau gorymdeithio. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau am fywyd milwr Rhufeinig a rhai o'r gwrthrychau diddorol a adawsant ar eu hôl. 

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: 2 Medi - 25 Hyd 2024 & 28 Ebrill - 18 Gorff 2025
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Oed: 8-11

Amcanion dysgu:

  • Dysgu sut fywyd oedd gan filwyr newydd yn y Fyddin Rufeinig, gan roi sylw i’w gwahanol gefndiroedd, sut oedden nhw’n hyfforddi a beth oedd y disgwyliadau.
  • Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
  • Ystyried y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng teimladau’r Rhufeiniaid yn y fyddin a’r Prydeinwyr oedd yn cael eu concro.
  • Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.

Gwersyll Rhufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk