Gweithgaredd Addysg

Cefnogi teuluoedd

Mae Amgueddfa Cymru yn darparu rhaglenni dysgu wedi’u targedu i ymgysylltu â theuluoedd, plant a phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon.

Rydym yn gweithio gyda partneriaid gan gynnwys Dechrau’n Deg, Tŷ Hafan a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i gefnogi teuluoedd sy’n wynebu heriau wrth gael mynediad i amgueddfeydd.

Cynhelir Diwrnodau Teuluol yn fisol lle gall teuluoedd treulio amser, cael hwyl a gwneud atgofion gyda gweithgareddau hwyliog a creadigol wedi’u hysbrydoli gan ein casgliadau.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk