Adnodd Dysgu

Wythnos Addysg Oedolion yn Amgueddfa Cymru | 2024

Fis Medi eleni bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion unwaith eto ar draws pob un o'n saith amgueddfa gyda rhaglen amrywiol o gyfleoedd i oedolion sy'n dysgu.

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Wlân Cymru | Dysgu Nyddu | Medi 3, 10:30am-12:30pm

Dewch draw i gael tro ar nyddu yn Amgueddfa Wlân Cymru. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Grŵp Sgetsio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Medi, 10, 1:00pm-3:00pm

Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen. Galw heibio.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Teithiau Sain Ddisgrifiad - Ffosilau o’r Gors | Medi 12, 10:30am

Ymunwch â ni ar daith sain ddisgrifiad drwy arddangosfa Ffosilau o’r Gors a dysgu mwy am y gors drofannol oedd yn gorchuddio Cymru tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. 

Bydd y daith dywys rhad ac am ddim hon ar gyfer ymwelwyr dall a gydag amhariad ar y golwg yn edrych ar y ffosilau hardd sy’n adrodd hanes y gwlypdiroedd trofannol hynafol hyn. 

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni. Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Canolfan Ddarganfod Clore | Medi 13, 2:00pm-4:00pm

Mae'r oriel ryngweithiol hon yn llawn cannoedd o wrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa i'w trin a'u trafod. Bydd staff yr Amgueddfa yn barod i ateb eich cwestiynau a rhannu rhai o'u hoff wrthrychau. Galw heibio.

______________________________________________________________________________________________________________________________________________

Sain Ffagan | Enamlo | Medi 10, 11:00am-12:30pm

Ymunwch â ni am gyflwyniad i enamlo, a dysgu sut i danio enamel ar gopr mewn odyn. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Taith Ymwybyddiaeth Ofalgar Sain Ffagan | Medi 10, 2:00pm-3:00pm

Ymunwch â ni am dro meddylgar o amgylch Sain Ffagan i archwilio byd natur. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Stampio a Phaentio Lledr | Medi 11, 10:30am-11:30am a 2:00pm-3:00pm

Defnyddiwch stampiau metel i greu llawes lledr syml neu lyfrnod, ac ychwanegwch fflach o liw gyda phaent. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Gwehyddu Bwydwr Adar Helyg | Medi 12, 2:00pm-3:00pm

Dysgwch sut i wehyddu helyg i greu bwydwr adar bach i'ch gardd. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Diwrnod i Ddysgwyr Cymraeg | Medi 12, 10:00am-12:00pm

Galwch draw i’n gweld ni yn Sain Ffagan am ddiwrnod arbennig i ddysgwyr Cymraeg.

Dewch i ymarfer eich Cymraeg, chwarae gemau bwrdd, darganfod yr adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg yn Sain Ffagan, cwrdd â dysgwyr eraill a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Galw heibio.

Mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd.

Sain Ffagan | Grŵp Sgetsio Sain Ffagan | Medi 13, 10:30am-12:00pm

Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Diwrnod i Ddysgwyr Saesneg | Medi 13, 2:00pm-4:00pm

Galwch draw i’n gweld ni yn Sain Ffagan am ddiwrnod arbennig i oedolion sy'n dysgu Saesneg (ESOL).

Dewch i ymarfer eich Saesneg, chwarae gemau bwrdd, darganfod yr adnoddau sydd ar gael yn Sain Ffagan i bobl sy'n dysgu Saesneg, cwrdd â dysgwyr eraill a chael gwybod mwy am gyfleoedd dysgu eraill. Galw heibio.

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Cefnogir y gweithgareddau hyn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn rhan o ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Paid Stopio Dysgu - Wythnos Addysg Oedolion