Adnodd Dysgu

Windrush Cymru: Adnoddau addysg

Adnodd addysg yn rhoi llais i wynebau a hanes Cenhedlaeth Windrush yng Nghymru.

Mae'r adnodd dysgu hwn yn cael ei lywio gan gynnwys a gasglwyd fel rhan o brosiect Race Council Cymru, Windrush Cymru – Our Voices, Our Stories, Our Histories. Mae’r themâu wedi dod i’r amlwg o’r straeon a’r atgofion a rannwyd gan y cyfranogwyr.

Diolchwn i'r holl henuriaid a theuluoedd Cenhedlaeth Windrush am rannu eu straeon ar gyfer cenedlaethau iau a helpu i gofnodi etifeddiaeth Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Rydym yn awgrymu bod athrawon a dysgwyr yn cymryd amser i fyfyrio mewn prosiectau ystafell ddosbarth estynedig i ystyried ac ymchwilio i wahanol agweddau, ac effaith etifeddiaeth Windrush. Mae'n bwysig nodi bod Cenhedlaeth Windrush yn arloeswyr ac mae eu presenoldeb yng Nghymru wedi newid ein gwlad fach er gwell ac mewn amryw o ffyrdd.

Mae'r pecyn adnoddau hwn yn cynnwys stori ffuglennol ac adnodd ffeithiol:

  • Windrush i Gymru:  Ffuglen wedi'i seilio ar brofiadau bwyd go iawn. Dilynwch y Teulu Thompson ar eu taith o Jamaica i Drebiwt. 
  • Windrush Cymru: Gallwch chi wrando ar straeon go iawn teuluoedd Windrush a ddaeth i Gymru yn e-lyfr Windrush Cymru. Mae'n cynnwys ffotograffau, archifau sain a thrafodaethau dosbarth thematig.

Cwricwlwm

Dyniaethau: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Oed: 8-11

Darluniadau gan Kyle Legall

Adnoddau