Gweithdy Amgueddfa

Drych ar yr Hunlun - Ymweiadau Ysgol

Ai'r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf? Mae arddangosfa newydd gyffrous Amgueddfa Cymru, Drych ar yr Hunlun, yn archwilio ac yn gofyn y cwestiwn hwn, gan edrych ar y ffordd mae artistiaid drwy amser, o Rembrandt a Van Gogh i Bedwyr Williams ac Anya Paintsil, yn gweld ac yn cynrychioli eu hun.

Bydd nifer cyfyngedig o slotiau unigryw ar gael i ysgolion archebu am 10.15am neu 10.45am. 

Mae’r slotiau amser yn gyfyngedig ac ni ellir eu newid. I wneud y gorau o’ch slot, cyrhaeddwch ar amser gan na allwn ei newid na’i ymestyn. 

I archebu neu i drafod yr arddangosfa, ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk

Os hoffech chi ymchwilio portreadau ymhellach, yna beth am archebu lle ar weithdy Edrych ar Hunaniaeth Drwy Bortreadau sy’n cael ei hwyluso gan ein staff addysg. Drwy ddadansoddi gwahanol arddulliau o bortreadau bydd dysgwyr yn darganfod artistiaid newydd ac yn trafod portreadau a’u defnydd mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Wrth ymateb a myfyrio ar y celf sy’n cael ei arddangos byddwn ni’n ystyried sut mae ein bywydau a’n hunaniaethau ein hunain yn cysylltu â’r gwaith. 

Dyddiadau: 16 Mawrth 2024 - 24 Ionawr 2025
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk