Digwyddiadau

Arddangosfa: Drych ar yr Hunlun

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
16 Mawrth 2024 - 26 Ionawr 2025, 10am-5pm
Pris Talwch beth allwch chi
Addasrwydd Pawb

Anya Paintstil ©The Artist, courtesy of Ed Cross Fine Art/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

© Brenda Chamberlain/Amgueddfa Cymru - Museum Wales/Reuven Jasser

Archebu tocynnau

Ai'r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf? Mae arddangosfa newydd gyffrous Amgueddfa Cymru, Drych ar yr Hunlun, yn archwilio ac yn gofyn y cwestiwn hwn, gan edrych ar y ffordd mae artistiaid drwy amser, o Rembrandt a Van Gogh i Bedwyr Williams ac Anya Paintsil, yn gweld ac yn cynrychioli eu hun.

Drwy hanes, mae llawer o artistiaid wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffyrdd o archwilio eu hunaniaeth a mynegi eu hun. Paentiodd Van Gogh 35 o hunanbortreadau, ac felly gellir dadlau ei fod yn un o'r wynebau mwyaf cyfarwydd yng nghelf y Gorllewin. Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys Portread o’r Artist ⁠(1887) Van Gogh, sydd ar fenthyg o'r Musée d’Orsay ym Mharis. 

Yn cadw cwmni i Van Gogh bydd detholiad o artistiaid yng nghasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys:

  • Rembrandt
  • Brenda Chamberlain
  • Francis Bacon
  • Bedwyr Williams
  • Anya Paintsil. 

Gyda'i gilydd, maen nhw'n arddangos amrywiaeth eang o wahanol ddulliau artistig o greu hunanbortreadau. 

Mae hunanbortreadau a hunluniau yn ddau beth gwahanol, ond maen nhw'n rhannu'r un nod – mae'r ddau yn cael eu defnyddio i ddangos pwy ydych chi fel person. O'r holl ffyrdd amrywiol rydyn ni'n dogfennu ein bywydau, mae hunluniau wedi dod yn ffordd boblogaidd o fynegi ein hunain a'n hunigoliaeth. 

Mae'r gweithiau hyn yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae artistiaid wedi mynd ati i fynegi eu hun, yn yr un modd ag yr ydyn ni'n cyflwyno ac yn rhannu lluniau o'n hunain heddiw. Sut ydych chi'n gweld eich hun? 

Tocynnau

Gyda’r tocynnau rhataf yn £1, rydyn ni’n eich annog chi i dalu beth allwch chi. Boed yn £1, £5, £10 neu fwy, byddwch chi’n ein helpu i greu ffyrdd newydd i bobl weld, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol. Gwnewch gyfraniad go iawn at y gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru drwy dalu beth allwch chi – byddwn ni’n diolch o galon!

Yn rhad ac am ddim i Aelodau! 

Cefnogwch Amgueddfa Cymru a mwynhewch gynigion arbennig a buddion. Darganfyddwch fwy am ddod yn Aelod yma . Cefnogwch Amgueddfa Cymru a mwynhewch gynigion arbennig a buddion. 

Mae gweithdai addysg ar thema portreadau ar gael i ysgolion, rhagor o fanylion.

Cefnogwr Teithio Trenau Cymru

Teithiwch ar y trên i Gaerdydd gyda Great Western Railway (ac arbedwch 1/3 gyda Cherdyn Rheilffordd)

 

Rhywbeth arall o ddiddordeb:

 

Digwyddiadau