Adnodd Dysgu

Adnoddau Banc Lluniau

Mae adnoddau 'Banc Lluniau' yn gyflwyniadau wedi'u gwneud ymlaen llaw sy'n canolbwyntio ar themâu penodol. Mae pob adnodd yn defnyddio delweddau o gasgliadau Amgueddfa Cymru i ddangos thema hanesyddol neu ddiwylliannol benodol.

Mae'r adnodd yn llwytho i lawr fel cyflwyniad PowerPoint ac mae pob un yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd manwl sy'n rhoi manylion gwybodaeth gefndirol a dehongli'r delweddau a ddefnyddir.

Nid oes gan yr adnoddau gam oedran na dilyniant penodol mewn golwg a gellir eu defnyddio ar gyfer dysgu ffurfiol neu anffurfiol. Byddem yn annog defnyddwyr i ddarllen trwy'r nodiadau cyfarwyddyd a golygu'r adnodd i weddu orau i'w hanghenion.

Streic y Glowyr | 1984-1985 →→→ Nodiadau Cyfarwyddyd: Streic y Glowyr

Grwpiau Cymorth i Fenywod | 1984-1985 →→→ Nodiadau Arweiniad: Grwpiau Cymorth i Fenywod