Gweithgaredd Addysg
Cam 1: Paratoi i plannu (dechrau mis Hydref)
Cyflwyniad: Neges gan yr Athro'r Ardd
Defnyddiwch y cyflwyniad hwn i gyflwyno'r prosiect i'ch disgyblion.
Pecyn ymchwilio:
Bydd eich pecyn adnoddau yn cael ei ddanfon i'ch ysgol yn ystod pythefnos cyntaf mis Hydref. Cadwch y bylbiau mewn lle oer a sych cyn eu plannu. Fydd y bylbiau ddim yn cael digon o aer o’u cadw yn y bocs. Plîs gwiriwch gynnwys eich pecyn a rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth ar goll.
Dylai'r pecyn gynnwys:
- 1 bwlb cennin Pedr i bob disgybl (Tenby Daffodil)
- 1 bwlb crocws i bob disgybl (Whitewell Purple) Bylbiau dirgel
- 1 potyn i bob disgybl (oni bai eich bod wedi eithrio)
- Pot ychwanegol ar gyfer bylbiau dirgel
- Thermomedr (oni bai eich bod wedi eithrio)
- Mesurydd glaw (oni bai eich bod wedi eithrio)
- Taleb i brynu pridd
- Adnoddau papur
Paratoi i blannu:
- Cyn plannu, bydd angen i ddisgyblion enwi a mabwysiadu eu bylbiau a gwneud labeli ar gyfer eu potiau.
- Dyma amser da i drafod beth sydd ei angen ar blanhigyn i dyfu, ac i benderfynu ble i osod y bylbiau yn yr awyr agored ar dir eich ysgol.
- Cofiwch dynnu lluniau / fideos ar gyfer cystadleuaeth Bylbcast.
Cyflwyniad: Mabwysiadu eich bylbiau