Cam 5: Cadw cofnodion blodau (Ionawr - Mawrth)
O fis Ionawr i fis Mawrth, anogwch y disgyblion i edrych ar y bylbiau yn rheolaidd a chofnodi dyddiad blodeuo a thaldra’r planhigion.
Disgyblion yn parhau i gadw cofnodion tywydd fel y tymor blaenorol. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar X/Twitter!
Anogwch y disgyblion i wylio’r map blodeuo er mwyn gweld ble mae’r blodau yn agor gyntaf, ac astudio’r patrymau tywydd er mwyn ceisio dyfalu pam fod y bylbiau yn agor ynghynt mewn rhai ardaloedd.
Defnyddiwch PowerPoint ‘Cadw Cofnodion Blodau’ er mwyn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwybod beth i’w gofnodi a phryd. Cyn gynted ag y bo blodyn yn agor, gofynnwch i’r disgybl fewngofnodi i’r wefan a chofnodi’r dyddiad blodeuo. Yn syth wedi i cofnod gael ei derbyn, dylai blodyn ymddangos uwchben eich ysgol ar y map blodau a dylai’r dyddiad ymddangos ar y siart flodau. Gofynnwch i bob disgybl anfon eu cofnod wrth i’r blodau agor, fel y gall y wefan gyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog eich ysgol. Gellir defnyddio hyn i gymharu tueddiadau.
Gall hyn fod yn amser da i drafod oblygiadau posib o newid hinsawdd, a rhoi pwysigrwydd yr ymchwiliad yn ei gyd-destun. Gweler adnoddau sy'n ymwneud a newid hinsawdd ar wefan yr amgueddfa.
Gall disgyblion greu diagram o’r planhigyn gan dynnu sylw at strwythur a diben y ddeilen, gwreiddiau, blodyn ac ati. Mae yna enghreifftiau ac adnoddau i helpu labelu rhannau o'r planhigyn ar y wefan.
Gall disgyblion fynd â’r cennin Pedr adre gyda nhw pan fydd wedi blodeuo (gyda chaniatâd yr athro). Rhannwch yr adnodd ‘gofal bylbiau’ hefo disgyblion.