Gweithgaredd Addysg

Cam 7: Gwobrau Gwyddonwyr Gwych (dyddiad cau diwedd mis Mawrth)

Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn tystysgrif Gwyddonydd Gwych, pensiliau a hadau. Anfonwch bob cofnod tywydd a blodau at Athro'r Ardd drwy'r wefan erbyn 28 Mawrth. 


Gofynnwch i'r disgyblion fynd â'u planhigion adref gyda nhw ar gyfer y gwyliau. Peidiwch â phoeni os nad yw rhai planhigion wedi blodeuo erbyn diwedd y tymor. Gofynnwch i'r plant yma cofnodi'r dyddiad blodeuo o gartref. Rydym yn gofyn am ddyddiad blodeuo ar gyfer cennin Pedr a chrocws o bob disgybl. Bydd hyn yn bwydo mewn i'r dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer eich ysgol. Os nad yw planhigyn yn cynhyrchu blodyn, yna nodwch y taldra i'r wefan gyda '00-00-00' fel y dyddiad. 


Ar ddiwedd y project, ailddefnyddiwch neu ailgylchwch eich potiau. Os byddwch yn gwneud cais i gymryd rhan eto, gallwch ofyn i ailddefnyddio eich potiau. Mae'r potiau wedi'u gwneud o blastig sef wedi'i ailgylchu ac maent yn gwbl ailgylchadwy. 


Cadwch gofnodion wythnosol i gael cyfle i ennill gwobr i’r dosbarth!Y wobr i enillwyr Cymru fydd taith dosbarth i’r safle Amgueddfa Cymru agosaf, yn cynnwys bws a gweithgareddau natur. Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu gwobrau ar gyfer ysgolion o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I gael cyfle i ennill, cofiwch anfon eich cofnodion tywydd i’r wefan erbyn 28 Mawrth. Bydd pob disgybl sy’n rhannu eu cofnodion yn ennill tystysgrif Gwyddonwyr Gwych, pensiliau a hadau. Byddwn yn anfon y rhain at bob ysgol erbyn yr wythnos o 19 Mai. 

Enillwyr Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan


Bydd adroddiad diwedd blwyddyn Athro Ardd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan. 

Cofiwch i…
Dilynwch y Blog Bylbiau
Dilynwch Athro'r Ardd ar Twitter
Defnyddiwch adnoddau ar y wefan

Disgyblion o Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn plygu i osgoi gwas y neidr a oedd yn plymio tuag atom

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru