Gweithgaredd Addysg

Cam 8: Astudio canlyniadau'r ymchwiliad (Mehefin/Gorffennaf)

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cofnodi’r tywydd ac yn nodi pryd mae’r planhigion yn blodeuo, fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
 
Plannodd ysgolion eu bylbiau cennin Pedr a chrocws ar 20 Hydref, gan gadw cofnodion tywydd rhwng Tachwedd a Mawrth. Fe wnaethon nhw fewnbynnu eu cofnodion tywydd, y dyddiad blodeuo, a thaldra’r planhigion i wefan Amgueddfa Cymru.
 
Yr astudiaeth hirdymor...
Mae ein hinsawdd a’r tymhorau’n newid. Dros y 10-20 mlynedd nesaf (a thu hwnt) rydym am i’n gwyddonwyr ysgol ddangos sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar amseroedd blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Mae'r project hwn wedi'i anelu at flynyddoedd 3 i 6 ac mae'n tynnu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol. Mae'r project yn ategu elfennau o'r cwricwlwm ar gyfer Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg, Celf a TGCh. Mae hefyd yn cefnogi'r pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru drwy ysbrydoli disgyblion i fod yn hyderus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn wybodus yn foesegol.
 

Ysgol Llandwrog yn cofnodi data tywydd i'r wefan.