Ymweliad Rhithiol

12 Mis Allan: Cymru a Streic y Glowyr 1984/85 (Gweithdy Rhithiol)

Ym mis Mawrth 1984, aeth 25,000 o lowyr yn ne Cymru ar streic a bydden nhw’n aros allan am 12 mis.

Dewch i ddysgu mwy am Streic y Glowyr 1984/85 – un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes glofaol Cymru.

Sut oedd bywyd ar gyfer glöwr ar streic a’i deulu? Pwy oedd yn cymryd rhan? Pwy oedd y grwpiau cymorth a helpodd y glowyr ar streic?

I ddysgu mwy am y dyddiadau sydd ar gael a’r costau, e-bostiwch bigpit@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys enw’r ysgol, nifer y disgyblion, oed y dosbarth a’ch dyddiadau delfrydol neu ffoniwch (029) 2057 3650.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Iechyd a Lles: Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein safon byw, a bywydau eraill.

Amcanion Dysgu 

• Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso’r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes Streic y Glowyr 1984/85. 
• Meddwl yn greadigol i ail-fframio a datrys problemau drwy ymchwilio hanes cymhleth Streic y Glowyr 1984/85. 
• Datblygu dealltwriaeth o’u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes protest yng Nghymru.
• Deall a defnyddio eu cyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd, drwy ddysgu mwy am y wleidyddiaeth tu ôl i Streic y Glowyr 1984/85.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650