e-Lyfr

Eich Ffrynt Cartref | Cymru yn yr Ail Ryfel Byd | Sut i ymchwilio i'ch cymuned leol yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Dysgwch sut i ymchwilio i'ch cymuned leol yn ystod yr Ail Ryfel Byd trwy ddefnyddio'r adnodd 'Eich Cartref'! 

Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar Ffrynt Cartref yr Ail Ryfel Byd er mwyn dangos ffyrdd syml o ymchwilio i hanes ar-lein. Gall gael ei ddarllen gan unigolyn neu ei rannu fel cyflwyniad. Mae’n syniad da canolbwyntio ar un adran ar y tro.

Mae’n cynnwys enghreifftiau o’r hyn all gael ei ganfod, ffilmiau tiwtorial, dolenni i adnoddau, canllawiau a mwy. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer Cam Cynnydd 2 ond gellir ei addasu’n hawdd i bob disgybl. Gellir ei ddefnyddio fel project Cynefin ar gyfer y Dyniaethau.

Ffrynt Cartref | Cymru yn yr Ail Ryfel Byd

Defnyddiwch yr e-lyfr hwn i archwilio gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru a darganfod sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ffrynt Cartref: Cymru yn yr Ail Ryfel Byd

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Y DYNIAETHAU | Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.

Mae ymholi yn fwy nag ymarferiad academaidd; mae’n galluogi myfyrio sydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y cyflwr dynol. Yn ei dro, gall hyn ychwanegu ystyr at fywydau’r dysgwyr, a chyfrannu at eu hymdeimlad o le a bydolwg.