Adnodd Dysgu
Mytholeg Rufeinig: Duwiau, Arwyr, & Bwystfilod
Yn yr hen fyd, roedd gan bobl Rhufain a Groeg storïau am dduwiau, duwiesau a bwystfilod.
Roedd llawer o’r storïau, neu chwedlau hyn yn esbonio sut oedden nhw’n meddwl oedd y bydysawd yn gweithio.
Roedden nhw’n credu fod y duwiau a’r duwiesau yn gyfrifol am bopeth – yr haul, y cynhaeaf... hyd yn oed y gwin!
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Oed: 8-11