Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rôl Bwrdd Amgueddfa Cymru yw:
Rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, llywodraethu a rheolaethau mewnol.
Penodir ymddiriedolwyr fel unigolion a dim ond er budd gorau Amgueddfa Cymru y caniateir iddynt weithredu ac er mwyn hybu ei Hamcanion, ni waeth beth fo’r dulliau penodi. Daw’r Ymddiriedolwyr â phersbectif a phrofiad i’r Bwrdd.
Dyletswydd tuag at Amgueddfa Cymru yn unig yw prif ddyletswydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, gan sicrhau bod ei Hamcanion yn cael eu hybu, bod ei Gweledigaeth a’i hamcanion strategol yn cael eu gwireddu a bod y polisïau perthynol yn cael eu cyflawni mewn modd cost-effeithiol o fewn y pwerau a’r awdurdodau a gadarnhawyd gan y Siarter Frenhinol a’r Statudau. Rhaid i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr sicrhau bod safonau uchel o lywodraethu corfforaethol yn cael eu parchu bob amser, a bod Amgueddfa Cymru’n gweithredu o fewn terfynau ei hawdurdod ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy’n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus ac elusennol.
Mae’r Ymddiriedolwyr o dan ddyletswydd i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Ymddiriedolwyr gan weithredu, bob amser, yn ddidwyll ac er budd gorau Amgueddfa Cymru. Cynghorir yr Ymddiriedolwyr i ymgynghori â’r Llywydd neu’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ynghylch unrhyw agweddau y maent yn ansicr yn eu cylch.
Mae cyfrifoldebau cyffredinol y Bwrdd yn cynnwys:
Gweledigaeth a Strategaeth: Gosod gweledigaeth, gwerthoedd a safonau Amgueddfa Cymru, a chymeradwyo nodau ac amcanion strategol yr elusen.
Llywodraethu a Rheoli Mewnol: Adolygu ei threfniadau perfformiad a llywodraethu, rheoli gwrthdaro buddiannau, pwyllgorau’r Bwrdd, dirprwyo a chylchoedd gwaith. Darpariaeth gyffredinol ar faterion sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr Amgueddfa, gan gynnwys ymysg pethau eraill materion ariannol, gweithredol, strategol neu enw da.
Contractau/Cytundebau: Dim ond y rhai sy’n syrthio y tu allan i gwrs cyffredin busnes neu sy’n dod o dan y ddarpariaeth Gyffredinol uchod.
Strwythur: Newidiadau mawr yn strwythur cyfreithiol Amgueddfa Cymru a/neu strwythur ei chyfarwyddiaethau.
Cyfathrebu: Ar faterion sy’n codi lefel uchel o risg neu niwed posibl i enw da (e.e. gweithgarwch troseddol, gwrthdaro buddiannau).
Cymeradwyo cyllidebau: drwy bwyllgor dirprwyedig a lle mae’r gwariant yn fwy na’r terfynau y cytunwyd arnynt.
Mae gan yr Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb corfforaethol dros sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol ar gyfer defnyddio cronfeydd cyhoeddus.
Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr y cyfrifoldebau cyffredinol a ganlyn:
Mae Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Amgueddfa Cymru, wrth arfer ei chyfrifoldebau cyffredinol, bennu’r materion hynny y mae penderfyniadau yn eu cylch wedi’u cadw ar gyfer y Bwrdd a’r materion hynny a ddirprwyir i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol.
Mae’r materion isod wedi’u cadw ar gyfer y Bwrdd.
PŴER GALLUOGI CYFFREDINOL
Caiff y Bwrdd benderfynu ar unrhyw fater a ddymunir mewn sesiwn lawn o fewn ei bwerau statudol.
Bydd gan bwyllgorau ac is-bwyllgorau a sefydlir gan y Bwrdd bŵer i weithredu’r penderfyniadau hynny sy’n cael eu diffinio’n benodol fel penderfyniadau sydd o fewn eu cylchoedd gwaith, fel y nodir yn eu Cylch Gorchwyl, a hynny heb ofyn cymeradwyaeth y Bwrdd. Er hynny, mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod mai nhw sy’n gyfrifol yn y pen draw ac ar y cyd am benderfyniadau o’r fath.
Bydd gan Lywydd y Bwrdd neu Bwyllgor neu Is-bwyllgor, neu os nad yw’r Llywydd ar gael y Trysorydd neu’r Is-Lywydd, rym mewn achosion o frys, i awdurdodi camau neu wariant ar yr amod y bydd unrhyw enghraifft o’r fath yn cael ei hadrodd i gyfarfod nesaf y Bwrdd, neu’r Pwyllgor neu’r Is-bwyllgor perthnasol.
Rhaid i’r Bwrdd:
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Bydd trafodaethau nad ydynt yn gyfrinachol yn cael eu cynnal yn gyhoeddus.
Cworwm y Bwrdd yw pump o Ymddiriedolwyr sydd â’r hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i’w gyflawni yng nghyfarfodydd y Bwrdd, y mae’n rhaid i un ohonynt fod yn Swyddog.
Er mwyn penderfynu a oes cworwm yn bresennol, caniateir i aelod o’r Bwrdd gael ei gyfrif yn y cworwm os yw’n gallu cymryd rhan yn nhrafodion y cyfarfod, gan gynnwys trwy ddulliau o bell (e.e. ffôn neu gyswllt digidol arall) gan barhau i fod ar gael fel hyn drwy gydol y trafod a’r penderfyniad ar bob eitem y mae’n cael ei gyfrif yn rhan o’r cworwm ar ei chyfer.
Rhaid i aelodau’r Bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn y cyfarfod perthnasol, hyd yn oed os yw’r gwrthdaro eisoes wedi’i gofnodi yn y Gofrestr Buddiannau a gyhoeddwyd. Bydd unrhyw ddatganiad o’r fath yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod.
Gan ddibynnu ar eu datganiadau o fuddiannau (caiff y Cadeirydd ofyn i aelod o’r Bwrdd dynnu’n ôl o’r trafod a/neu ymatal rhag pleidleisio os yw’n teimlo bod y posibilrwydd o wrthdrawiad buddiannau yn teilyngu hynny), bydd gan bob aelod o’r Bwrdd yr hawl i bleidleisio mewn unrhyw ddadl a chael cofnodi ei farn yn y cofnodion. Disgwylir i aelodau’r Bwrdd gadw cyfrinachedd a disgresiwn priodol wrth gynnal materion y Bwrdd a thrin / cadw gwybodaeth a dogfennau yn ddiogel, yn benodol felly mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth bersonol, berchnogol, neu fasnachol.
Heb osod unrhyw gynsail, caiff y Bwrdd wahodd swyddogion neu unigolion eraill neu gynrychiolwyr sefydliadau eraill i fod yn bresennol yn y cyfan o’i gyfarfodydd, neu ran ohonynt. Ni fydd gan fynychwyr nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd hawl i bleidleisio.
Bydd y Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol yn darparu gwasanaeth i gefnogi’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu a phapurau, casglu dogfennau, cyfathrebu ag aelodau’r Bwrdd, cymryd cofnodion, cylchredeg cofnodion ac unrhyw bwyntiau dilynol neu bwyntiau gweithredu perthnasol, a ffeilio dogfennau’r Bwrdd yn y System Rheoli Dogfennau i sicrhau bod cofnod ffurfiol yn cael ei gadw.
Bydd eitemau’r agenda yn cael eu cytuno ymlaen llaw gyda’r Cadeirydd, a bydd agendâu a phapurau yn cael eu dosbarthu un wythnos (saith diwrnod) cyn y cyfarfodydd. Bydd aelodau’r Tîm Gweithredol yn noddi ac yn cyflwyno eitemau ar yr agenda a gyflwynir gan eu Cyfarwyddiaeth / eu byrddau busnes noddedig.
Bydd cofnodion yn cael eu cymryd o gyfarfodydd y Bwrdd. Bydd hyn yn cynnwys cofnod o benderfyniadau a’r rhesymau dros benderfyniadau, a gweithredoedd, ynghyd â log gweithredoedd wedi’i lunio sydd i’w gadw gan yr Ysgrifenyddiaeth a’i adolygu ym mhob cyfarfod.
Bydd y cofnodion a’r logiau gweithredoedd blaenorol yn cael eu hadolygu ym mhob cyfarfod. Caiff y cofnodion eu cadarnhau yn y cyfarfod canlynol.
Bydd papurau a chofnodion eitemau’r Bwrdd nad ydynt yn gyfrinachol yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog ar wefan Amgueddfa Cymru.
Nifer aelodau’r Bwrdd yw 16.
9 Person a benodir gan Weinidogion Cymru Adran 3(1)(a) o’r Statudau, gan gynnwys Llywydd ac Is-lywydd,
7 Person a benodir gan Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Adran 3(1)(b) o’r Statudau, gan gynnwys Trysorydd.