Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Diffinnir Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn y Siarter a’r Statudau fel awdurdod yr Amgueddfa ac mae wedi sefydlu nifer o bwyllgorau i’w helpu i gyflawni ei gyfrifoldebau.
Caiff y Bwrdd ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau neu i Grwpiau Comisiynu, Ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr neu staff.
Pwyllgorau’r Bwrdd – Cylch Gorchwyl Cyffredinol
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd yw hwn. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a sicrhau bod gofalaeth a rheolaethau ariannol yr Amgueddfa yn cael eu harfer yn unol â pholisi’r Amgueddfa fel y mae wedi’i sefydlu gan y Bwrdd a hynny yn unol â’r codau a’r safonau ymarfer a bennir gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a chan gyrff proffesiynol.
Carol Bell yw Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad ac Adnoddau.
Y Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad ac Adnoddau – Cylch Gorchwyl Penodol
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd yw’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu.
Hywel John yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd – Cylch Gorchwyl Penodol
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd yw’r Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol. Ei brif rôl yw goruchwylio’r broses o benodi:
Rachel Hughes yw Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol.
Y Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth Ariannol - Cylch Gorchwyl Penodol